CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfri'n Cewri - Hanes Mawrion ein Mathemateg

Gwasg Prifysgol Cymru

Cyfri'n Cewri - Hanes Mawrion ein Mathemateg

Pris arferol £11.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gareth Ffowc Roberts
ISBN: 9781786835949
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 217x139 mm, 172 tudalen
Iaith: Saesneg
Darganfyddwch pam y mae mathemateg yn rhan naturiol a hanfodol o'n diwylliant, yn gyfochrog â chanu a barddoni, a pham y mae hanes ein mathemateg yn rhan mor bwysig o'n treftadaeth. Mae'r gyfrol hon yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir â Chymru.
Tabl Cynnwys:
Diolchiadau
Rhagair
Map o Gymru
1 Rwyf yn meddwl am rif
2 O Fôn ar draws y Fenai
3 Fel pader aeth pwˆer pai
4 Hap a damwain
5 Uchelgaer uwch y weilgi
6 Cawr ymhlith corachod
7 Beth yw teitl y bennod hon?
8 Mathemateg i’r miliwn
9 O ba le y daw doethineb?
10 Clirio’r dagfa
11 Manylu ar anfanyldeb
12 Siapiwch hi!
13 I gloi
14 Atebion i’r posau
15 Nodiadau ar y penodau
Mynegai
Bywgraffiad Awdur:
Mae Gareth Ffowc Roberts yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n ddiflino yn ei frwdfrydedd dros gynnwys mathemateg fel rhan naturiol o'n diwylliant fel Cymry.
Gwybodaeth Bellach:
• Mae mathemateg yn rhywbeth i bawb a Cyfri'n Cewri yn lyfr i bawb, a fydd yn fodd i bobl dderbyn mathemateg fel rhan naturiol o'r diwylliant Cymreig.
• Mae Cyfri'n Cewri yn hawdd ei ddarllen gan achosi i chi wenu, i golli ambell ddeigryn, ac i grafu'ch pen o dro i dro.
• Mae'r llyfr yn dangos bod mathemateg yn ffrwyth gwaith pobl o gig a gwaed gyda'u hemosiynau a'u teimladau, fel pawb arall.