CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Temlau Peintiedig - Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 | Painted Temples - Wallpaintings and Road-Screens in Welsh Churches, 1200-1800

Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales

Temlau Peintiedig - Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 | Painted Temples - Wallpaintings and Road-Screens in Welsh Churches, 1200-1800

Pris arferol £29.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Richard Suggett, Anthony J Parkinson, Jane Rutherfoord

ISBN: 9781871184587
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Fformat: Clawr Caled, 348x253 mm, 376 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Ceir yma restr lawn o'r murluniau, y testunau a'r Arfbeisiau Brenhinol sy'n goroesi, a'r rhai sydd ar goll. Dyma lyfr hanfodol, felly, i'r sawl sy'n ymddiddori mewn adeiladau eglwysig yng Nghymru a thu hwnt, ac fe anogir ei ddarllenwyr i ymweld â'r adeiladu hyfryd hynny a phrofi o'u naws. Mae'r wybodaeth ynddo wedi'i gasglu dros flynyddoedd maith gan y Comisiwn Brenhinol.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Richard Suggett FSA, FLSW, yw Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gwybodaeth Bellach:
Gan Gymru y mae rhai o’r eglwysi mwyaf trawiadol o ddiwedd yr Oesoedd Canol yng ngwledydd Prydain. Eglwysi ydynt a oroesodd helyntion degawdau’r Diwygiad Protestannaidd a’r Rhyfel Cartref a diogelu enghreifftiau nodedig o groglenni a thoeau, yn ogystal â murluniau a gafodd eu cuddio dan haenau o wyngalch.
Yn y llyfr awdurdodol hwn, mae Richard Suggett yn ein tywys ni drwy hanes codi eglwysi yng Nghymru yn ystod y cyfnod o ryw gan mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd pryd y rhoddwyd i lawer eglwys y ffurf sydd iddi heddiw. Mae’n trafod y ffactorau a effeithiodd ar oroesiad nodweddion canoloesol ac yn defnyddio ffynonellau dogfennol, gan gynnwys y cyfoeth o farddoniaeth Gymraeg o’r cyfnod, i ddatgelu’r hyn a wyddom ni am y crefftwyr a fu wrthi’n addurno’r adeiladau hynny, y noddwyr a’u comisiynodd, a’r ystyron y tu ôl i’r gweithiau peintiedig.

Mae’r llyfr yn cynnwys dadansoddiadau manwl o ddwy eglwys addurnedig sydd o bwys cenedlaethol – Llancarfan, ym Mro Morgannwg, a Llandeilo Tal-y-bont, sydd bellach wedi’i hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Lluniwyd y dadansoddiadau gan yr arbenigwyr a ddadlennodd y dilyniannau pwysig o furluniau ynddynt. Disgrifir hanes yr addurno peintiedig wedi’r Diwygiad Protestannaidd, adeg a welodd ddisodli’r delweddau peintiedig gan eiriau peintiedig yn Gymraeg a Saesneg a chan yr Arfbais Frenhinol – y mynegiant gweledol o’r berthynas newydd rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth. Testun epilog yw ailddarganfod lliwiau’r eglwys ganoloesol gan bersoniaid hynafiaethol eu bryd yn gynnar yn oes Victoria.